Gŵyl Werin Tŷ Tredegar

GŴYL 2005 - ORIEL LLUNIAU

Diweddarawyd ddiwethaf: 02/08/2006

 

6ed, 7fed ac 8fed o Fai 2005

 

Gwennodd yr haul arnom ni eleni - a chawsom ni fwy nag erioed o gynulleidfa a gwirfoddolwyr yn helpu i redeg y sioe.

 

Cliciwch yma i weld lluniau gŵyl 2006 (mae lluniau 2004 a chynt ar gael o'n gwefan Saesneg).

 

 

Arweinir yr orymdaith gan ein llywydd newydd - yr AS lleol Mr Paul Flynn - yng nghwmni (o'r chwith) meistr y system sain Dave Cox, is-lywydd Steve Lyons ac is-lywydd Marcus Butler...

 

... a dyma Paul yn agor yr ŵyl yn swyddogol o lwyfan y buarth.

 

 

Dyma'r darpar-filwyr o Henffordd - gyda'u hyfforddwr, Roger Mathhews - a berfformiodd mor wych wrth drefnu'r safle, pacio ar ddiwedd yr ŵyl a stiwardio trwy'r penwythnos. 

 

 

Roedd stondin Tony Vasami ar agor o fore tan nos i'n bwydo - gyda salad, pasta a phizza.

 

Diddanwyd y plant trwy'r penwythnos gan Jan Edgecombe o'i fan "bwrdd du". Dyma hi'n arwain draig liwgar yn yr orymdaith.

 

 

Dyma rai o gerddorion y tîm dansio gwerin o Val d'Akragas yn Sicily.

 

 

Mae dawnswyr bola'r dwyrain-canol lleol (Jawahir) yn ffefrynau mawr yn yr ŵyl bellach ac maen nhw bob tro yn denu'r dorf...

 

  

 

... a dyma ddawnswyr salsa Casnewydd yn dynn wrth eu sodlau yn yr orymdaith.

Mae Barry Butler - un o is-lywyddion yr ŵyl - yn cadw cwmni'r genhedlaeth iau wrth gynrychioli Cwmni Gwerin Pontypŵl...

...a dyma weddill y grŵp

 

 

 

Daeth berfformwyr syrcas i'n diddanu eleni (a dysgu eu crefft mewn gweithdy)...

  

... a dyma ddynion Morus Isca yn profi bod eu traddodiad nhw dal yn fyw.

 

Mae'r Paloina o'r Iseldiroedd yn dangos eu hathletrwydd yn y babell fawr...

 

 

...tra mae'r grŵp morus lleol "Widders" yn mynd amdani ar lwyfan y buarth.

 

 

Pleser pur oedd mwynhau'r perfformiadau yn haul y gwanwyn.

 

 

 

Caiff hen draddodiad clocsio driniaeth gyfoes gan stepwyr "Traed ar Dân"

 

 

 Wrth gwrs, mae digon o ganu a cherddoriaeth ar gael yn yr ŵyl, hefyd. Dyma fand ysgolion Gwent yn perfformio yn y babell fawr...

 

 

... a dwy yn dadlau sut yn union mae canu ffidil yn iard y bragdy - i gyfeiliant ...

 

 

 

... chwib...

... a bodhran...

... a dwy ffidil arall.

Roedd digon o blant yn awyddus i ail-baentio fan Jan Edgecombe (ond peidiwch â becso - mae'n golchi'n lan yn ddigon rhwydd!).

 

 

Diolch o'r galon i bawb a gynorthwyodd i gynnal yr ŵyl (mae gormod i restru yma, ond gallwch ymfalchio yn eich cyfraniad!) ac hefyd, wrth gwrs am haelioni'r sawl a roes lety i'r perfformwyr o dramor.

 

Diolch, hefyd i Steve, Helen a Sarah Lyons am eu ffotograffiau ac i'r perfformwyr oll. 

 

Gallwch weld lluniau gŵyl 2006 yma a lluniau 2004 a chynt ar ein gwefan Saesneg.

 

Powered by Recipero Working together with BT