Gŵyl Werin Tŷ Tredegar

NEWYDDION CYMDEITHAS GŴYL WERIN TŶ TREDEGAR ? EBRILL 2006

Diweddarwyd ddiwethaf 05/04/2006

 

PRISIAU TOCYNNAU

Bydd prisiau'n tocynnau fel y llynnedd (noson werin Gwener £4; twmpath nos Wener £5; cyngerdd nos Sadwrn £8; a thwmpath nos Sadwrn £7). Am y tro cyntaf eleni cynhelir cyngerdd ar nos Sul (Eddie Walker, gyda chefnogaeth Catherine Handley a Huw Chidgey); tocynnau £5.

Fel ymateb i sawl ymholiad byddwdn ni'n arbrofi eleni gyda thocyn penwythnos; cewch fynediad i bopeth am £29 - gyda gwersylla am ddim, hefyd.

Cofiwch fod aelodau'r gymdeithas yn derbyn disgownt o £1 ar eu tocynnau. Cewch ymaelodi trwy gysylltu â'r trysorydd (gweler isod) neu lawrlwytho ffurflen aelodaeth oddi yma.


BORE COFFI

Cynhelir bore coffi i godi arian at yr ŵyl yn nhŷ'r maer (Stow Park Circle) ar fore Sadwrn, 22ain o Ebrill, 10:30-12:30.

Bydd arddangosfa dawnsio gwerin rhyngwladol a stondinau cacennau a bric-a-brac.

Mynediad £3. Cysylltwch ag aelod o'r pwyllgor pe hoffech chi brynu tocyn ymlaen llaw.


AGORIAD SWYDDOGOL

Mae llywydd cymdeithas yr ŵyl - AS lleol Paul Flynn - wedi cytuno'n garedig i agor yr ŵyl eto eleni.

Mae Paul yn hen ffrind i ni a chroesawn ei gefnogaeth cyson.


PERFFORMWYR DAWNS WEDI'U CADARNHAU

Yn ogystal â'r ddau dîm tramor a ddaw i'n diddani eleni (o'r wlad Belg a Denmarc), ychwanegir at ddimensiwn cydwladol yr ŵyl gan berfformiadau dau dîm arall sydd wedi cadarnhau eu presenoldeb. Bydd mynychwyr selog yr ŵyl yn siwr o groesawu'n ôl grŵp Iwcrain 'Veselka' o Goventry ac rydyn ni'n falch iawn o weld Dawns India Cymru yn dychwelyd ar ôl eu perfformiad lliwgar y llynnedd.


GWERSYLLA

Mae'r gost o sicrhau diogelwch ar gyfer y maes gwersylla wedi llyncu cryn dipyn o'n harian prin ers sawl blwyddyn ac felly mae'ch pwyllgor wedi penderfynu i godi'r tâl eleni - am y tro cyntaf ers blynyddoedd - i £10 am y penwythnos. Mae hwn yn talu am un uned - boed yn babell neu garafan - faint bynnag nifer y bobol sy'n aros ynddo, felly mae'n bris rhesymol iawn.

Os ydych chi'n chwilio am gyfleusterau gwell cewch gysylltu â'r Clwb Carafan i drefnu aros ar eu safle ym Mharc Tŷ Tredegar. Y rhif ffôn yw 01633 815600 - neu cewch weld y manylion arlein yn www.caravanclub.co.uk


EICH PWYLLGOR YW ...
Angie Sadler (swyddog hysbys, 01633 667542); Barbara Griffiths (ysgrifennyddes, 01633 892697); Colin Sage (trysorydd, 01633 895870); Joanne Thomas (01633 270090); Mick Tems (01443 229561); Mo Sadler (is-gadeirydd a threfnydd stiwardiaid, 07979 205130); Pam Sage (01633 895870); Phil Millichip (trefnydd cerdd, 01495 750114); Ruth Agg (01633 423083); Steve Lake (cadeirydd: 07941 364589); Sue Oates (trefnydd dawns, 01633 246241)

 

Powered by Recipero Working together with BT