Gŵyl Werin Tŷ Tredegar

Hanes Yr Ŵyl

Dechrau'n araf deg

 

 

 

Dechreuwyd yr ŵyl gan Marcus Butler (o Marcus Music Workshop, Tŷ Tredegar) ym 1988 fel arddangosfa dawnsio gwerin gyda thimoedd lleol.

 

 

Datblygu 

Yn dilyn llwyddiant yr arbrawf hwn fe benderfynwyd trefnu gŵyl ar raddfa ehangach ac felly ym 1989 fe gynhaliwyd Gŵyl Werin Tŷ Tredegar yn swyddogol am y tro cyntaf.

 

Er iddi ganolbwyntio ar ddawns werin ar y dechrau, mae'r ŵyl wedi ehangu ei gorwelion dros y blynyddoedd. Am saith mlynedd fe dalodd ei ffordd ei hunan: fe ddawnsiodd y timoedd am ddim, gyda gwerthiannau tocynnau twmpath a chyngerdd - yn ogystal â chyfraniadau'r cyhoedd - yn talu am yr ŵyl y flwyddyn ganlynol.

 

 

 

Cyllid

 

 

 

Ochr yn ochr â thwf yr ŵyl fe gododd y costau ac ym 1996 gofynwyd am gymorth ariannol gan y Cyngor Celfyddydau. Mae grant y cyngor yn ogystal â grant Cyngor Dinas Casnewydd yn talu dros 35% o gostau'r ŵyl bellach.

 

 

Trefniant

 

Ym 1997 fe ffurfiwyd cymdeithas swyddogol ac etholwyd pwyllgor i dderbyn y cyfrifoldeb o redeg yr ŵyl.

 

Mae aelodau'r pwyllgor yn derbyn cyfrifoldebau penodol, er enghraifft stiwardio, perfformiadau dawns a chân.

 

 

 

Fformat

 

 

 

 

Mae'r ŵyl wedi datblygu patrwm arbennig dros y blynyddoed ...

 

·       Twmpath ar nos Wener a nos Sadwrn;

·       Un prif gyngerdd gydag artist adnabyddus;

·       Noson y clwb gwerin lleol - gydag artist gwadd (gwerthir tocynnau i'r rhain i gyd).

·       Gweithdai cerdd a dawns ar fore Sadwrn a bore Sul (codir tâl bach am rain).

·       Sesiynau anffurfiol cerdd a chân trwy gydol y penwythnos.

·       Perfformiadau dawns (am ddim) ar brynhawn Sadwrn a Sul.

·       Adrodd storïau (gan gynnwys cystadleuaeth) prynhawn Sadwrn (eto, am ddim).

 

 

 

 

Mae trefnwyr yr ŵyl yn ymfalchio na chodir  tâl am fwyafri'r gweithgareddau a'i bod yn agored i'r cyhoedd. Rydyn ni'n awyddus iawn i gadw'r naws arbennig sydd wedi  perthyn i'r ŵyl dros y blynyddoedd.

 

 

 

 

 

 

Ers y dechrau pwysleisiwyd crefftau traddodiadol, gan osgoi pwysau masnachol: mae elfen addysgiadol gref i'r ŵyl, hefyd, gyda nifer o ysgolion lleol yn perfformio a'r cyfle i bawb ddysgu dulliau newydd o ddawnsio.

 

 

Powered by Recipero Working together with BT