19eg Ŵyl Werin Tŷ Tredegar
Ddydd Gwener Mai'r 9fed i ddydd Sul Mai'r 11eg, 2008
Cewch y newyddion diweddaraf o'r dudalen hon, ble cyhoeddwn ein cynlluniau wrth i ni baratoi at ŵyl 2008.
Newyddion diweddaraf:
Yn agor yr ŵyl ar y nos Wener eleni fydd One String Loose - arwyr lleol a gyrrhaeddodd rownd derfynol cystadleuaeth Artistiaid Gwerin Ifanc y BBC. Fe'u canmolwyd gan y cyflwynydd Frank Hennessy ar y BBC: "One of the finest young bands I have ever come across... full of energy, inventiveness, fun and above all, talent." Fe'u magwyd yn y diwylliant Gwyddelig ac wedi ffrwydro ar y sîn gerddorol!
Bydd Mabon o Benybont yn ein diddanu gyda chyngerdd awr o hyd ar y nos Sul ac yn syth wedyn symudwn ymlaen i dwmpath Celtaidd gyda Grainne Joughin (o dîm dawnsio Manawaidd Perree T ac yn wraig i Jamie Smith o Mabon) yn galw. Dylai hyn fod yn arbennig o gyffrous!
Mae'r ddeuawd hynod Nancy Kerr a James Fagan wedi'i chadarnhau am ein cyngerdd yn 2008. Mae James (aelod o'r teulu Fagan enwog) yn canu'r gitâr-bazouki ac mae Nancy (merch y ddarlledwraig, cantores a cherddor enwog Sandra Kerr) yn canu'r fiola a ffidil. Gyda'i gilydd, mae ganddynt leisiau cyfareddol a setiau cerddorol rhyfeddol sy'n sicr o ddiddanu pawb. Mae noson yn eu cwmni yn ffordd ddelfrydol o roi wythnos galed tu ôl i chi!
Bydd Mick Ryan a Pete Harris yn westeion ar nos Wener yn y Stafell Morgan yn Nhŷ Tredegar. Mae Mick yn adnabyddus fel perfformiwr gwych o ganeuon traddodiadol a gwreiddiol. Fe'i ddisgrifiwyd gan Froots fel "definitely the most underrated singer in the country". Pete (gitâr, bouzouki, mandolin, mandola, gitâr bâs, a chwiban) wedi gweithio nifer o fandiau llwyddiannus, gan gynnwys y New St. George a Band Pentre Bursledon ac mae'n berfformiwr solo penigamp hefyd.
Mae 'Albino Frogs Ian Day' yn hysbys i bawb yn Ne Cymru. Maen nhw'n chwarae ym mhob man - criw o gerddorion arbennig, yn drydanol ac acwstig. Byddant yn cyflwyno cyngerdd yn y Stafell Morgan ar nos Sadwrn.
Am fanylion y perfformiadau dawns drwy benwythnos yr ŵyl cewch brynu rhaglen - naill ai o swyddfa'r ŵyl neu o gwmpas y safle.
DIGWYDDIADAU ERAILL
NOS WENER 9fed o FAI
I agor yr Ŵyl: One String Loose
Cyngerdd nos Wener - 8:00 yr hwyr, Ystafell Morgan
Noson werin yng nghwmni artistiaid lleol
Gwesteion: Mick Ryan a Pete Harris
Twmpath nos Wener - 8:00 yr hwyr, y babell ddawns
Cyfle i losgi'r llawr i gyfeiliant band Dai Bach
DYDD SADWRN 10fed o FAI
Bore Sadwrn:
I'w gadarnhau
Prynhawn Sadwrn:
I'w gadarnhau
Cyngerdd nos Sadwrn - 8:00 yr hwyr, Ystafell Morgan
Twmpath nos Sadwrn - 8:00 yr hwyr, y babell ddawns
Eich cyfle chi i ddawnsio - i gerddoriaeth 'Juice' (galwr: Dave Parsons)
DYDD SUL 11eg o FAI
Bore Sul:
I'w gadarnhau
Prynhawn Sul:
I'w gadarnhau
Parti mawreddog nos Sul - 8:00 yr hwyr, y babell ddawns
Cyngerdd gyda Mabon
Twmpath Celtaidd gyda Mabon (a Grainne Smith yn galw)
Cyngerdd nos Sul - 8:00 yr hwyr, Ystafell Morgan
Albino Frogs
GRWPIAU DAWNS
Timoedd cydwladol wedi'u cadarnhau
TAARNBY KVADRILLEN (Denmarc)
SEFYDLIAD GWERIN PELOPONNIS (Groeg)
Timoedd eraill sydd wedi'u cadarnhau hyd yma:
Boojum
Chequered Flag
Gwerinwyr Gwent
Jawahir
Brandy Wine
Morus Isca
Gwyliwch y dudalen hon am newyddion pellach!
(Diweddarwyd ddiwethaf 24/04/2008)