Gŵyl Werin Tŷ Tredegar

GWIRFODDOLWYR

Diweddarwyd ddiwethaf ar 23/02/06

 

Allwch chi helpu dros benwythnos yr ŵyl?


Pe hoffech chi gynorthwyo (hyd yn oed am awr neu ddwy) - neu os ydych chi eisiu trafod pa help sydd ei angen - ar bob cyfrif cysylltwch* â ni. Fe gewch chi bob hyfforddiant angenrheidiol a gwahoddiad i'r parti ar ddiwedd yr ŵyl.

Dyma'r gwaith i'w wneud dros benwythnos yr ŵyl...

 

Trefnu'r safle a phacio ar y diwedd: dydd Gwener (10:00 - 15:00), dydd Llun (10:00 - 12:00)
Byddwch chi'n codi baneri ac arwyddion am y safle a sicrhau bod swddfa'r ŵyl yn ei lle ac wedi'i pharatoi ar gyfer y penwythnos - oll dan arweiniad aelodau's pwyllgor.
 

MC: dydd Sadwrdn a dydd Sul (12:00 - 12:45; 13:30 - 17:00)
Byddwch chi'n cyflwyno'r performwyr, naill ai ar lwyfan y buarth, y babell fawr neu'r llwyfan anffurfiol ac fe gewch chi nodiadau ar gefndir y perfformwyr.
 
Gosod y llwyfannau a'u pacio ar y diwedd: dydd Sadwrdn a dydd Sul (10:00 - 12:00, 17:00 - 18:00)
Gosod llwyfanau yn y buarth a'r babell fawr a'r llwyfan anffurfiol ar bwys siop Marcus - dan arweiniad aelodau'r pwyllgor; pacio nhw ar ddiwedd y prynhawn.
 
Pacio ar ddiwedd y nos: nosweithiau Gwener, Sadwrn a Sul (23:30 - 00:00)
Tacluso'r babell fawr a'r ystafell Morgan a phacio'r systemau sain ar ôl y twmpathau a chyngherddau - dan arweiniad aelodau'r pwyllgor.
 
Peirianydd sain: nosweithiau Gwener a Sadwrn (18:30 - 23:00); dydd Sadwrn a dydd Sul (13:00 - 17:00)
Rhedeg y system sain am y noson werin (nos Wener), y cyngerdd (nos Sadwrn) a'r llwyfanau yn y buarth a'r babell fawr (dydd Sadrwn a dydd Sul). Fe gewch chi nodiadau ar anghenion sain pob grŵp (sawl meicroffon sydd angen a'r nifer o offferynau sydd ganddynt).

 

Twmpathau: nosweithiau Gwener a Sadwrn (19:00 - 23:00)
Derbyn tocynnau ac arian am fynediad wrth y drws.

 

Gwerthu rhaglenni / casglu gyda bwcedi: dydd Sadwrdn a dydd Sul (12:00 - 17:00)
Gwerthu rhaglenni a derbyn cyfraniadau oddi wrth aelodau'r cyhoedd.
 
Swyddfa'r ŵyl: dydd Sadwrdn a dydd Sul (10:30 - 17:00)
Gwerthu rhaglenni, tocynnau a chrysau-T; ateb ymholiadau cyffredinol; rheoli bwcedi casglu mewn ac allan; trefnu gwirfoddolwyr eraill; a dosbarthu tocynnau'r perfformwyr. Bydd ffeil gyda nodiadau a chanllawiau cynhwysfawr ar gael.
 
Stiwardiau: dydd Sadwrdn a dydd Sul (amserau gwahanol drwy'r penwythnos)
Bydd angen cadw llygad ar sut mae popeth yn rhedeg a chydweithio gyda'r cyflwynwyr, peirianwyr sain a gwirfoddolwyr eraill. Mae setiau radio dwy-ffordd ar gael i chi gadw mewn cysylltiad â'ch gilydd a llyfryn canllawiau.
 

*Am fanylion pellach cysylltwch â'r cadeirydd - Steve Lake...

Ffôn: +44 (0)7941 364589

Ebost:

 

 

Sylwch ni ellir copïo'r cyfeiriad hwn - rwy'n ceisio osgoi spam rhag llenwi fy mlwch post.

 

Powered by Recipero Working together with BT