Gŵyl Werin Tŷ Tredegar

HOFFECH CHI EIN CEFNOGI? GALLWCH, FEL HYN....

Diweddarwyd ddiwethaf 02/02/06

 

Os ydych chi wedi mwynhau'r ŵyl ac eisiau ei chefnogi mae sawl ffordd i wneud hynny ...

 

  • nawdd - cyfrannu gwobrau raffl, offer neu hyd yn oed arian
  • gwirfoddoli am y penwythos - mae angen cyflwynwyr ar y llwyfannau; perianwyr sain; gweinyddwyr; stiwardiaid; cymorth i drefnu'r maes gwersylla a llwyfanau; gwerthwyr rhaglenni (cliciwch yma am ragor o fanylion)
  • ymuno â Chymdeithas Gŵyl Werin Tŷ Tredegar
  • cynnig llety i berfformwyr o dramor
  • cynorthwyo gyda gwaith penodol (er enghraifft, cynnal y gwefan hwn neu drefnu hysbysrwydd) ar adegau eraill drwy'r flwyddyn 

 

Nawdd

Rydyn ni'n ddiolchgar am bob cefnogaeth ac yn cydnabod hynny ar lafar (o'r llwyfan) ac yn ein rhaglen. 

 

A sôn am y rhaglen, cewch hysybysebu ynddi am bris rhesymol iawn. Cysylltwch* â ni am fanylion pellach.

 

Gwirfoddoli

Mae pob pâr o ddwylo yn ddefnyddiol - hyd yn oed os dim ond am awr. Cysylltwch* â ni pe hoffech chi helpu - neu ddarlen rhagor yma.

 

Ymuno â'r Gymdeithas

Pe hoffech chi ddangos eich cymorth i'r Gymdeithas a chyfrannu at ei gwaith o drefnu'r ŵyl edrychwch ar y dudalen aelodaeth am fanylion ar sut y gallwch chi ymuno â ni.

 

 

Cynnig llety i berfformwyr o dramor

Rydyn ni'n cyfrannu at gostau teithio ein perfformwyr o dramor (fel arfer y cludiant o'r maes awyr i Gasnewydd), ond allwn ni ddim talu am eu costau teithio llawn na'u perfformiadau.

 

Mae'r dimensiwn cydwladol hwn yn bosibl bob blwyddyn dim ond oherwydd haelioni cefnogwyr sy'n cynnig llety i'r perffromwyr yn eu cartrefi eu hunain. Mae'n brofiad gwych i'r perfformwyr a'r teuluoedd lleol, ac mae'r cyfeillgarwch yn aml yn para bell ar ôl i'r ŵyl orffen. Pe hoffech chi gynnig llety cysylltwch* â ni am sgwrs anffurfiol.

 

Gweler hefyd ein polisi tocynnau am fanylion o'r pas a roddir i'r sawl sy'n cynnig llety.

 

*Am fanylion pellach ysgrifennwch at:

 

Sylwch ni ellir copïo'r cyfeiriad hwn - rwy'n ceisio osgoi spam rhag llenwi fy mlwch post.

 

Powered by Recipero Working together with BT