Diweddarwyd ddiwethaf: 31/01/2008
Nodau ac Amcanion: Sefydlwyd yr ŵyl yn wreiddiol fel ffenestr siop i'r gwahanol fathau o ddawns draddodiadol a ddysgwyd a pherfformiwyd yn ne-ddwyrain Cymru ac mae'n parhau i ddathlu'r crefftau hyn - yn ogystal â chân a cherdd draddodiadol, gyda phwyslais ar ddysgu ac ehangu sgiliau.
Cliciwch yma i weld ein hamcanion ffurfiol
Cliciwch yma i weld cyfansoddiad ein Cymdeithas
Fformat: Mae'r arddangosfeydd dawns a'r sesiynau cerdd â chân yn agored i bawb am ddim; ceir mynediad i'r twmpathau a chyngherddau trwy docyn (mae disgownt ar gael i aelodau'r Gymdeithas); codir tâl bach am weithdai.
Gweler hefyd ein polisïau ar ffotograffiaeth.
Perfformwyr: Pe hoffech chi berfformio yn yr ŵyl darllenwch hwn yn gyntaf, os gwelwch yn dda!
Stondinau crefft: Pe hoffech chi drefnu stondin crefft cewch y manylion cyswllt priodol yma.
Proffeil: Mae'r ŵyl yn ddigwyddiad cydwladol ac mae timoedd tramor a chartref fel ei gilydd yn gofyn yn gyson i ddychwelyd iddi.
Hanes: cliciwch yma i darllen am hanes yr ŵyl.
Trefnwyr: Trefnir yr ŵyl gan Gymdeithas Gŵyl Werin Tŷ Tredegar, sy'n elusen cofrestredig (rhif 1103628). Y pwyllgor presennol yw...
Angie Sadler - swyddog hysbysrwydd Barbara Griffiths - ysgrifennydd Ian Richardson - trysorydd Joanne Thomas Mick Tems - gwefeistr Mo Sadler - is-gadeirydd Phil Millichip - trefnydd cerdd Ruth Agg Sue Oates - cadeirydd a threfnydd dawns
Dyma rai o'r bobol allweddol yn hanes yr ŵyl. O'r dde i'r chwith...
Y diweddar Barry Butler: cyd-sylfaenydd, cyn-gadeirydd, anrhydeddus is-lywydd (yng ngŵyl 2007 fe berfformiodd y timoedd dawns o Gymru a gweddill y byd eu dehongliad unigol o ddawns goffa a ddyfeisiwyd i anrhydeddu Barry Butler, a fu farw wedi salwch hir yn 2006)
Marcus Butler (dim perthynas): cyd-sylfaenydd, cyn-is-gadeirydd, anrhydeddus is-lywydd
Rod Denley-Jones: cyn-is-gadeirydd, M.C.
Stephen Lyons: cyn-gadeirydd, anrhydeddus is-lywydd
|
|
|
|
|