Gŵyl Werin Tŷ Tredegar

(Diweddarwyd ddiwethaf: 31/01/2008)

MAE CYMDEITHAS GŴYL WERIN TŶ TREDEGAR yn elusen cofrestredig (rhif 1103628).

 

COST AELODAETH yw £5 y flwyddyn (yn dechrau o'r Cyfarfod Cyffredinol Blynyddol, a gynhelir fel arfer ym mis Tachwedd - ond os ymunwch yn ystod yr ŵyl fydd dim rhaid adnewyddu tan y CCB y flwyddyn ganlynol).

 

BETH MAE AELODAETH YN EI GYNNIG? Mae gan aelodau'r hawl i:

  • ddisgownt o £1 ar bob tocyn

  • rybudd cynnar o gyngherddau, twmpatau, ac ati a'r cyfe i brynu tocynnau cyn iddynt fynd ar werth i'r cyhoedd

  • gylchlythyr rheolaidd gyda newyddion am yr ŵyl

  • wahoddiad i barti'r perfformwyr ar ddiwedd yr ŵyl

  • fynychu a phleidleisio yng nghyfarfod cyffredinol blynyddol y Gymdeithas

SUT I YMUNO 

Lawrlwythwch y ffurflen aelodaeth isod (clic-dde, wedyn "Save Target As"), llenwch hi a'i dychwelyd gyda siec am £5 yn daladwy i "Gŵyl Werin Tŷ Tredegar" i: Mick Tems, 88 Manor Chase, Beddau, Pontypridd CF38 2JE

(Sylwch fod dwy fersiwn ar gael - MsWord ('.doc') ac Adobe Acrobat ('.pdf'). Os nad oes gennych chi gopi o Adobe Acrobat gallwch ei lawrlwytho trwy glicio yma)

 

Neu gallwch chi gysylltu* â ni am ffurflen gais papur.

 

 

RHESTR eBOST Os oes gennych chi gyfeiriad ebost gallwch ofyn i dderbyn newyddion yn awtomatig trwy ebost - AM DDIM. Cysylltwch* â ni gyda'r teitl 'CYLCHLYTHYR GWTT - YMUNO' ac fe gewch chi ebost bob tro y cyhoeddir cylchlythyr newydd - a fydd ar gael o'r gwefan yma.

 

*I gysylltu â ni ysgrifennwch at:

 

Sylwch ni ellir copïo'r cyfeiriad hwn - rwy'n ceisio osgoi spam rhag llenwi fy mlwch post.

 

Powered by Recipero Working together with BT